Logo
Prif Ddewislen

Croeso

Defnyddair:

Cyfrinair:


Cofiwch Fi

[ Ymuno ]
[ Wedi Anghofio? ]


Search Ysgol Glan Clwyd


Croeso - Welcome
by admin on 06 07 04 : 12:23



Ysgol Uwchradd i bobl ifainc 11-18 oed


- Sicrhau safonau uchaf o ran gwaith ac ymddygiad

- Yn datblygu dinasyddion dwyieithog

- Cynnig cyfleon eang

Y cyntaf o’r fath

- Ysgol Uwchradd Glan Clwyd oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg / Ddwyieithog gyntaf o’i math. Ers sefydlu’r ysgol arloesol hon yn 1956, fe agorwyd nifer o ysgolion tebyg ledled Cymru ac mae’r nifer ar gynnydd

- Mae’r ysgolion oll, a’u llwyddiannau amlwg, yn dyst o dwf syfrdanol a phoblogrwydd yr ysgolion hyn

Dwy iaith – dwywaith y cyfle

- Mae Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn ysgol sy’n defnyddio’r Gymraeg fel prif gyfrwng dysgu ond mewn modd sy’n sicrhau bod disgyblion yn tyfu’n hyderus ddwyieithog

- Daw manteision amlwg wrth ddatblygu’r fath fedr, megis deall syniadau’n well, a chynnig gwell cyfleon gyrfa wedi cyfnod ysgol

- Daw’r disgyblion o gefndiroedd Cymraeg, Saesneg neu gymysg i fanteisio ar y cyfleon arbennig

Cadw a Chodi Safonau

- Mae ein disgwyliadau yn uchel ac yn heriol a chydag arweiniad mae’n pobl ifainc yn gallu ymateb iddynt a’u cyrraedd

- Rydym yn gyson yn gosod nodau i godi safonau gwaith pob disgybl, a thrwy hynny, yr ysgol gyfan

- Mynnwn y safonau uchaf o ran disgyblaeth a threfn fel bo’n pobl ifainc yn parchu eu hunain a pharchu eraill

Cynnig cyfle...

- Caiff ein disgyblion amrywiaeth o gyfleon gwahanol trwy ein cwricwlwm eang a chytbwys

- Mae cyfle ac anogaeth i bob disgybl ddatblygu ei fedrau beth bynnag fo’i gryfder a’i ddawn. Caiff disgyblion glod am lwyddo ym mha faes bynnag fo hynny

- Paratown ein hieuenctid i fod yn ddinasyddion cyflawn a hyderus mewn cymdeithas ddwyieithog

Ysgol sy’n gymuned o gymunedau..

- Mae’n ysgol sy’n cysylltu sawl cymuned leol a’u plethu at ei gilydd

- Daw’r disgyblion o ddalgylch daearyddol eang; lleolir yr ysgol mewn man cyfleus a chanolog i wasanaethu’r ardal

- Mae’r disgyblion a’u cefndir yn adlewyrchu holl amrywiaeth y cymunedau lleol – o’r gwledig i’r trefol, o’r Cymreig i’r Seisnig. Yr amrywiaeth hyn yw cyfoeth cymuned yr ysgol. Mae’n gymuned wâr a chyfeillgar a braint yw cael perthyn i deulu Ysgol Uwchradd Glan Clwyd



Ysgol Glan Clwyd
Ffordd Dinbych, Llanelwy. Sir Ddinbych. 01745 582611
ysgol.glanclwyd@denbighshire.gov.uk